P-05-1085 Gwneud hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn orfodol i bob Cynghorydd etholedig ac Aelod o'r Senedd yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jennifer Geroni, ar ôl casglu cyfanswm o 142 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae hiliaeth strwythurol yn rhoi grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru o dan anfantais sylweddol. Mae gan bob cynrychiolydd etholedig a ariennir gan drethdalwyr ddyletswydd i gynnal egwyddorion tegwch a chydraddoldeb i bawb. Bydd hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o hiliaeth strwythurol ac yn rhoi’r offer iddynt i’w helpu i'w ddatgymalu. Mae hwn yn bwysig i symud y sgwrs yn ei blaen ar lefel genedlaethol a lleol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru